Offer i helpu pobl dysgu ac addysgu Cymraeg

Tools to help people teach and learn Welsh

[iaith + -gar] a.

Yn caru neu’n mawrygu ei iaith (enedigol); yn ymhoffi mewn ysgolheictod (iaith, llên, &c.):

cherishing one’s (native) language; devoted to learning (language, literature, &c.).

Read this page in English

Ein nod yn Ieithgar yw creu adnoddau fydd yn helpu athrawon a thiwtoriaid Cymraeg wrth addysgu ar-lein neu yn y dosbarth. Gall dysgwyr hefyd eu defnyddio i ymarfer.

Rydyn ni eisiau bod pawb yn gallu defnyddio’n hadnoddau yn rhad ac am ddim. Os hoffech helpu cadw'r golau ymlaen a chefnogi datblygiadau pellach, gallwch gyfrannu yma.

Diolch a mwynhewch!

Eicon ar gyfer Dis Iaith

Dis Iaith

Disau 3D parod Cymraeg amrywiol. Gallwch hefyd greu a rhannu rhai eich hun!

Eicon ar gyfer Amserydd 'Amser a Ddengys'

Amserydd 'Amser a Ddengys'

Amserydd Cymraeg ar gyfer y dosbarth gydag awdio yn cyfri lawr y deg eiliad olaf.

Eicon ar gyfer Map y Tywydd

Map y Tywydd

Map tywydd rhyngweithiol i helpu dysgu termau'r tywydd gyda symbolau symudadwy.

Eicon ar gyfer Cardiau Fflip-Fflach

Cardiau Fflip-Fflach

Setiau o gardiau fflach ar gyfer drilio neu ymarfer Cymraeg. Gallwch hefyd greu a rhannu setiau eich hun!

Eicon ar gyfer Tic-Toc Cloc

Tic-Toc Cloc

Drilio ac ymarfer Yr Amser gyda chlociau parod neu rhai’ch hun. Dewiswch o dri dull gwahanol: Gêm, Cyflwyno a Drilio

Eicon ar gyfer Posteri!

Posteri!

Casgliad o bosteri iaith i chi eu hargraffu.

Eicon ar gyfer Lingo Bingo

Lingo Bingo

Gêm bingo y gellir ei haddasu i’w chwarae yn yr ystafell ddosbarth neu dros y rhyngrwyd, defnyddiwch setiau parod neu rai’ch hun.

Eicon ar gyfer Nodyn Bodyn

Nodyn Bodyn

Crëwch a chwaraewch "sgyrsiau" testun animeiddiedig eich hun ar ein ffôn rhithiol. Gallwch ddefnyddio Emojis hefyd!

Eicon ar gyfer Prismiaith

Prismiaith

Cyfres o daflenni berfau a phatrymau 3D i gynorthwyo'r plant ac i gefnogi llythrennedd. Gallwch greu rhai eich hun hefyd!

Eicon ar gyfer Helfa Drysor

Helfa Drysor

Adolygu enwau a rhifau drwy gasglu eitemau mewn sefyllfaoedd amrywiol.

Eicon ar gyfer Wal Seiniau

Wal Seiniau

Set o ymarferion hwyl i helpu dysgu'r deuseiniaid Cymraeg.

Eicon ar gyfer Ble?

Ble?

Ymarfer geirfa leoli mewn amgylchedd 3D.

Ewch
Eicon ar gyfer Anadla

Anadla

Teclyn anadlu syml i gynorthwyo meddwlgarwch.

Eicon ar gyfer Thermomedr

Thermomedr

Teclyn syml i helpu gyda drilio neu ymarfer tymereddau.